Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd/Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
14 Hydref 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau electronig.
Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
1 Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
Gofyn i’r Prif Weinidog
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yn dilyn y newyddion diweddaraf fod Prif Weinidog Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrthod cais pellach a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar 13 Hydref mewn perthynas â chyfyngiadau teithio?
4 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
5 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Endometriosis
(60 munud)
NDM7304 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod effaith ddinistriol endometriosis sy'n effeithio ar un o bob 10 menyw yng Nghymru.
2. Yn nodi ei bod yn cymryd, ar gyfartaledd, wyth mlynedd a 26 o apwyntiadau meddyg teulu i gael atgyfeiriad at arbenigwr endometriosis.
3. Yn galw am fwy o ymchwil i achosion endometriosis a thriniaethau posibl.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ysgolion yn gwneud pob disgybl yn ymwybodol o'r hyn sy'n gyfnod mislif arferol a phryd i ofyn am gyngor meddygol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod mwy o arbenigwyr endometriosis yn cael eu hyfforddi fel y gall pob menyw gael triniaeth arbenigol yng Nghymru.
Cyd-gyflwynwyr
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Cefnogwyr
Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
6 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Ymchwiliad i broses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb
(60 munud)
NDM7426 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar broses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Awst 2020.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Medi 2020.
7 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Effaith cyfyngiadau lleol coronafeirws ar gyflogwyr
(60 munud)
NDM7428 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu'r £4 biliwn o gyllid ychwanegol a ddarparwyd i Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth Ei Mawrhydi i fynd i'r afael ag effaith pandemig y coronafeirws yng Nghymru.
2. Yn cydnabod effaith andwyol sylweddol cyfyngiadau coronafeirws lleol ar fusnesau a chyflogwyr eraill.
3. Yn nodi'r angen i sicrhau bod cyfyngiadau coronafeirws sy'n effeithio ar gyflogwyr yn gymesur.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) dileu'r disgwyliad i gyflogwyr gael gweithle sy'n cydnabod undebau llafur er mwyn cael mynediad at gyllid a grantiau Llywodraeth Cymru;
b) ymestyn rhyddhad ardrethi busnes i fusnesau sydd â gwerth trethadwy o fwy na £500,000 ac i landlordiaid nad ydynt yn gallu gosod eiddo masnachol gwag;
c) hepgor y gofyniad buddsoddi o 10 y cant i gael grantiau o dan gam 3 y gronfa cadernid economaidd; a
d) cyhoeddi, yn gyhoeddus, ddata ar nifer y profion COVID-19 positif ar sail ward awdurdod lleol.
Dogfen ategol
Llythyr gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru at berchnogion busnes (Saesneg yn unig)
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliant 4 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.
Gwelliant 1 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi’r ffaith bod Llywodraeth Cymru’n dyrannu dros £4 biliwn i’w hymateb i COVID-19, sy’n swm uwch na’r cyllid canlyniadol a dderbyniwyd gan Lywodraeth y DU drwy fformiwla Barnett.
2. Yn cydnabod mai pecyn gwerth £1.7 biliwn Llywodraeth Cymru o gymorth i fusnesau mewn ymateb i COVID-19 yw’r pecyn gorau unrhyw le yn y DU, gan gynnwys cronfa cadernid economaidd gwerth £500 miliwn sy’n helpu i ddiogelu dros 100,000 o swyddi.
3. Yn nodi bod gwaith teg wrth wraidd ymateb Llywodraeth Cymru a bod pob busnes sydd wedi derbyn cymorth wedi cytuno i gadw at egwyddorion y contract economaidd.
4. Yn cydnabod y mesurau cynnar, cymesur a thryloyw y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno er mwyn mynd i’r afael â’r feirws a’i effeithiau ar yr economi ac ar iechyd y cyhoedd.
5. Yn croesawu cynlluniau gwerth £140 miliwn Llywodraeth Cymru ar gyfer trydydd cam y gronfa cadernid economaidd (ERF3), sy’n cynnwys £20 miliwn ar gyfer twristiaeth a lletygarwch.
6. Yn nodi’r ffaith y gall busnesau yng Nghymru sy’n parhau i fasnachu dderbyn cymorth o dan gronfa ymateb cyflym ERF3. Nid dyma’r sefyllfa o ran cymorth i fusnesau mewn ardaloedd lleol yn Lloegr sydd dan gyfyngiadau.
7. Yn teimlo bod penderfyniad Llywodraeth y DU i derfynu’r cynllun cadw swyddi yn anffodus ac yn credu nad yw’r cynllun cefnogi swyddi yn ddigon o gymhelliant i gyflogwyr o fewn y sectorau sydd yn y sefyllfa fwyaf bregus ar hyn o bryd i gadw gweithwyr yn ystod yr argyfwng, gan gynnwys cyflogwyr o fewn y sectorau twristiaeth a lletygarwch.
8. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddarparu pecyn cynhwysfawr o gyllid ar gyfer ardaloedd lleol sydd dan gyfyngiadau ychwanegol er mwyn mynd i’r afael â’r feirws.
[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 5 yn cael eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn galw am gynyddu pwerau benthyca ar lefel Cymru er mwyn ymateb i effaith y pandemig yn unol ag anghenion a blaenoriaethau Cymru.
Gwelliant 3 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo'n unol â hynny:
Yn gresynu at y ffaith nad yw cynllun cymorth swyddi Llywodraeth y DU o unrhyw help i nifer fawr o fusnesau yng Nghymru, yn enwedig busnesau bach a busnesau yn y sector gwasanaethau megis lletygarwch a gwallt a harddwch.
Gwelliant 5 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:
ail-werthuso cymorth busnes COVID-19 er mwyn sicrhau ei fod yn llenwi'r bylchau a adawyd gan gynlluniau Llywodraeth y DU mewn ffordd effeithiol.
8 Cyfnod pleidleisio
9 Dadl Fer - Hefin David
(0 munud)
Ni chyflwynwyd cynnig.
10 Dadl Fer - Alun Davies - wedi ei gohirio o 7 Hydref 2020
(30 munud)
NDM7415 Alun Davies (Blaenau Gwent)
Y tu hwnt i COVID-19: economi gynaliadwy i Flaenau'r Cymoedd.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 20 Hydref 2020